Storiau Menywod
Claire
Cafodd Claire O’Shea o Gaerdydd ddiagnosis o Leiomyosarcoma y Groth, sef canser prin a ffyrnig, ddwy flynedd bron ar ôl iddi nodi ei symptomau gyntaf gyda'i meddyg teulu.
Linda
Nid oedd Linda Drew, o Fro Morgannwg, yn gwybod am ganser yr ofari hyd nes iddi gael diagnosis ac mae'n credu bod diffyg ymwybyddiaeth yn broblem sy'n atal pobl rhag cael triniaeth amserol.
Judith
Cysylltodd Judith Rowlands, o Ynys Môn, â'i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar ôl y menopos. Cafodd bresgripsiwn am therapi adfer hormonau (HRT), ond pan barhaodd y gwaedu roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le, gan fod ei mam hefyd wedi cael diagnosis o ganser yr ofari. Yn y pen draw, cafodd Judith ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.
Clare Hollinshead
Teimlai Clare Hollinshead bod ei phryderon wedi’u diystyru a’u bychanu oherwydd ei rhyw a’i hoedran pan ymddangosodd symptomau yn ei thridegau.
Jessica Mason
Rhoddwyd ystod o gamddiagnosis i Jessica Mason gan gynnwys heintiau, cwymp y groth ac amheuaeth o endometriosis, dim ond ar gyfer tiwmor 4.5cm a ganfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn tyfu yng ngheg y groth a'r groth.
Kayleigh Lenny
Cafodd mam Kayleigh Lenney, Donna Hayward, 57 oed, gamddiagnosis o Leiomyosarcoma crothol ym mis Awst 2022.
Patsy Hudson
Ar ôl blynyddoedd o godi pryderon a mynd ar drywydd atebion, cafodd Patsy Hudson hysterectomi llawn pan ddarganfuwyd tiwmor ofari ffiniol.
Ceri Davis
Mae Ceri Davis, 53 oed , sy’n fam i ddau o blant, wedi cael diagnosis o ganser ceg y groth angheuol ar ôl cael gwybod nad oedd “dim i boeni amdano”.
Rachael Tyler
Dywed Jess Moultrie bod bywyd ei mam Rachael Tyler wedi newid yn aruthrol ar ôl blynyddoedd heb gefnogaeth, heb neb yn gwrando arni, na chael ei chymryd o ddifrif.
Ffion Rogers
Tynnwyd cyst 5cm o ofari Ffion Rogers ym mis Chwefror 2023 a dywedwyd wrthi ei fod yn cyst dumaroid a “dim byd i boeni amdano” gan nad oedd ganddi hanes teuluol a’i bod yn rhy ifanc ar gyfer canser yr ofari.