Ffion Rogers

Ffion Rogers

Tynnwyd cyst  5cm o ofari Ffion Rogers ym mis Chwefror 2023 a dywedwyd wrthi ei fod yn cyst dumaroid a “dim byd i boeni amdano” gan nad oedd ganddi hanes teuluol a’i bod yn rhy ifanc ar gyfer canser yr ofari.

Pedwar mis yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o ganser yr ofari cam 1C1. Darganfu bod ei hymgynghorydd wedi derbyn y canlyniadau histoleg ddiwedd mis Mawrth ond ni chafodd y rhain eu cyfleu iddi tan ddechrau mis Mehefin.

Fis yn ddiweddarach, cafodd Ffion hysterectomi llawn a chwe rownd o gemotherapi.

Dywedodd Ffion, “Codais bryder ynghylch yr oedi cyn derbyn fy nghanlyniadau histoleg a dywedwyd wrthyf mai’r rheswm dros aros oedd oherwydd gwyliau banc a bod fy ymgynghorydd ar wyliau blynyddol. Ychydig iawn o bryder oedd ganddynt am eu dyletswydd gofal tuag ataf.”

Mewn cydweithrediad â