Y newid sydd ei angen arnom

Y sefyllfa sy’n wynebu menywod yng Nghymru

Bob blwyddyn, mae bron i 1000 o achosion o ganserau gynaecolegol yng Nghymru.

Y canserau hyn yw’r 4ydd achos mwyaf cyffredin o farwolaethau canser ymhlith menywod yma. Mae’r rhain yn cynnwys canserau’r groth (wterws), yr ofari, ceg y groth, y fwfal a’r wain. Yn ogystal, mae menywod hefyd yn cael diagnosis o sarcomas gynaecolegol (leiomyosarcoma) sydd gan Claire. Gall y rhain ddigwydd unrhyw le yn y system atgenhedlu, er bod y rhan fwyaf o sarcomas gynaecolegol (85%) yn digwydd yn y groth a 7% yn digwydd yn yr ofarïau. Nid yw Cymru’n casglu data ar nifer y menywod sy’n cael diagnosis o leiomyosarcoma, ond rydym yn gwybod bod 373 o fenywod yng Nghymru wedi marw o ganserau gynaecolegol yn 2021. Roedd hyn yn cynnwys 50 o farwolaethau canser ceg y groth, 120 o ganser y groth, a 203 o ganser yr ofari. Mae cipolwg gan Ofal Canser Tenovus yn dangos bod cyfradd yr achosion o ganser gynaecolegol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, fel y mae’r gyfradd marwolaethau, gyda 373 o fenywod yng Nghymru yn anffodus yn colli eu bywydau yn 2021. Ym mis Gorffennaf 2022, dim ond 34% o ganserau gynaecolegol a gyrhaeddodd y targed Llwybr Canser Sengl (nid oedd yr un claf yn gorfod aros mwy na 62 diwrnod am driniaeth). Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, 32.2% yw’r ffigur hwnnw, sy’n dangos dim cynnydd.

Mae esboniad byr o symptomau pob canser gynaecolegol ar gael yma.

Sylw yn y wasg

Gallwch wylio cyfweliad Claire ag ITV Wales Sharp End ar y 5ed Rhagfyr, 2023 yma

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan i gyfweliad Claire yma

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-67625376

https://news.sky.com/story/woman-misdiagnosed-with-ibs-devastated-after-terminal-cancer-diagnosis-13024132

https://www.walesonline.co.uk/news/health/i-found-out-cancer-turkish-28212102

https://www.dailymail.co.uk/news/article-12833065/NHS-doctors-missed-cancer-spotted-Turkish-masseuse.html

Mewn cydweithrediad â