Claire

Stori Claire

Wedi’i chymryd o’i thystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cafodd Claire O’Shea o Gaerdydd ddiagnosis o Leiomyosarcoma y Groth, sef canser prin a ffyrnig, ddwy flynedd bron ar ôl iddi nodi ei symptomau gyntaf gyda’i meddyg teulu.

“Roeddwn i wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen at fy meddyg teulu dros sawl mis. Fe wnes i barhau i fynd yn ôl ac ymlaen, a chefais ddiagnosis o syndrom coluddyn llidus (IBS) – a chefais feddyginiaeth ar ei gyfer. Roeddwn i’n gwybod nad IBS oedd o,” meddai Claire yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor.

“Es i Istanbul ar wyliau gyda ffrindiau, ac fe es i hammam, sef bath Twrcaidd ble rydych chi’n cael eich golchi a’ch tylino, a phan oeddwn i yno fe stopiodd y ddynes tylino yn sydyn a dweud, mewn Saesneg bratiog, “Lady, baby?” gan feddwl fy mod i’n feichiog.

“Fe es i’n welw. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n feichiog, ond roedd yn amlwg iawn i mi bryd hynny fod y lwmp, mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg yn fy organau atgenhedlu. A dwi’n cofio siarad â fy ffrindiau ar y pryd, a dweud, “Sut mae masseuse o Dwrci yn gallu dweud wrtha i beth sydd o’i le yn well nag y gwnaeth fy meddyg teulu ers misoedd?”

Ers cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyntaf, mae canser Claire bellach ar gam 4 ac wedi lledu i’w iau, ei hysgyfaint a’i hesgyrn. Mae Claire yn rhannu ei hanes er mwyn codi ymwybyddiaeth o Leiomyosarcoma y Groth.

Mewn cydweithrediad â