Pauline Hughes
Dioddefodd Pauline Hughes o Ganolbarth Lloegr fisglwyf trwm a phoenus am flynyddoedd. Ar ôl 10 mlynedd, cafodd hysterectomi cyflawn o’r diwedd i leddfu ei phoen. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl symud i Skegness, fe brofodd waedu pryderus unwaith eto. Ni anfonodd ei meddyg teulu hi ar unwaith i gael profion ac roedd Pauline yn teimlo ei bod ‘wedi ei throi ymaith’ gyda phresgripsiwn pum mis ar gyfer gwrthfiotigau. Yn anffodus, cafodd ddiagnosis o ganser y bledren yn ddiweddarach. Mae Pauline yn teimlo ei bod wedi ei hesgeuluso gan feddygon ac mae’n credu y dylid profi canser yn y lle cyntaf i roi’r canlyniad gorau posib.