Patsy Hudson
Ar ôl blynyddoedd o godi pryderon a mynd ar drywydd atebion, cafodd Patsy Hudson hysterectomi llawn pan ddarganfuwyd tiwmor ofari ffiniol.
Gwnaeth Patsy sawl ymgais i ddeall beth oedd yn achosi poen yn ei bol ers dros ddegawd. Cafodd dri sonogram ac apwyntiad gyda gastroenterolegydd a gynhaliodd brawf gwaed, a gollwyd yn ddiweddarach.
Daeth ail sgan o hyd i ‘pedunculus’ ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach. Ar ei thrydydd sgan, teimlai Patsy fod rhywbeth o’i le pan “siaradodd staff gan sibrwd a gadael geiriau allan o’u brawddegau” a dywedwyd wrthi y byddai angen atgyfeiriad gan feddyg teulu i gynaecoleg.
Cafodd yr atgyfeiriad y gofynnodd Patsy amdano gan ei meddyg teulu ei ohirio ymhellach a’i golli yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, yn y cyfamser derbyniodd neges destun dim ateb gan feddyg gwahanol yn dweud bod y sgan yn dangos ‘annormaleddau ofarïaidd’.
Chwe mis ar ôl y sgan, gwnaeth meddyg teulu arall atgyfeiriad brys ar ôl i Patsy gael “breakdown ar y ffôn”. Yn y pen draw, cafodd hysterectomi llawn, 11 mis ar ôl yr apwyntiad cyntaf gyda’r meddyg teulu pan ddarganfuwyd tiwmor ofari ffiniol.