Linda

Linda Drew

Nid oedd Linda Drew, o Fro Morgannwg, yn gwybod am ganser yr ofari hyd nes iddi gael diagnosis ac mae’n credu bod diffyg ymwybyddiaeth yn broblem sy’n atal pobl rhag cael triniaeth amserol.

“Gwelais y rhestr hon ac roeddwn i, yn llythrennol, wedi ticio pob un o’r symptomau: y stumog yn chwyddedig, poen yn y stumog, yr angen i fynd i bi-pi yn amlach, blinder eithafol. Pe bawn i wedi gweld un o’r posteri hynny flwyddyn ynghynt, o leiaf byddwn wedi dweud wrth fy meddyg, ‘Edrychwch, a oes posibilrwydd bod hwn arna’i? Rwy’n meddwl bod y canser ofarïaidd hwn arnaf.’,” meddai Linda yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor.

Cafodd ei symptomau eu camgymryd am IBS (syndrom coluddyn llidus) a heintiau’r llwybr wrinol, sy’n amlygu symptomau tebyg i ganser yr ofari. Yn anffodus, mae’r camddiagnosis hwn yn gyffredin ar gyfer menywod. Cafodd ei gweld gan bum meddyg gwahanol yn ei meddygfa, ond sgwrs gyda ffrind arweiniodd at ei diagnosis yn y pen draw.
“Es i allan am swper gyda fy ffrind a’i gŵr, sy’n llawfeddyg. Eglurais fy symptomau iddo, a gofynnodd 3 neu 4 cwestiwn imi a gofyn a allai deimlo fy mol. Y diwrnod wedyn dywedodd “Rydw i’n mynd i ofyn iti ddod mewn” ac roedd yn gwybod y diwrnod hwnnw bod rhywbeth o’i le.”

Mae Linda wedi bod yn rhydd o ganser ers 13 mlynedd. Roedd llawdriniaeth i dynnu dwy goden fawr, un yn 22cm, a’r llall yn 17cm, yn llwyddiannus. Nawr, mae hi’n dweud ei stori pryd bynnag y gall, er mwyn helpu menywod eraill.

“Maen nhw’n galw’r canser hwn “y lladdwr tawel”, oherwydd erbyn i fenywod gael diagnosis, mae’n aml yn rhy hwyr. Felly, ar unrhyw gyfle, bydda i’n codi ymwybyddiaeth o’r symptomau … ac yn hyrwyddo’r neges nad oes angen i gynifer o fenywod farw o ganser yr ofari, oherwydd mae yna symptomau y gellir eu hadnabod.”

Mewn cydweithrediad â