Kayleigh Lenney
Cafodd mam Kayleigh Lenney, Donna Hayward, 57 oed, gamddiagnosis o Leiomyosarcoma crothol ym mis Awst 2022. I ddechrau, cafodd ei symptomau eu diystyru fel rhai oedd yn gysylltiedig â ffibroid. Fe gafodd fàs abdomenol mawr a oedd yn tyfu’n gyflym, colli pwysau, poen, gwaedu o’r wain, anemia a thwymyn.
Nid oedd ei symptomau yn gyson â diagnosis ffibroid. Mae gwefan y GIG yn nodi bod ffibroidau fel arfer yn datblygu gyda hormonau atgenhedlu benywaidd ac felly, gallwch ddod i’r casgliad bod rhai problemau yn anarferol mewn menywod ar ôl y menopos. Rhoddwyd gwrthfiotigau, meddyginiaeth poen syml iddi, a chynghorwyd hi i aros am hysterectomi arferol.
Lai na phedair wythnos yn ddiweddarach, cafodd dderbyniad brys ar gyfer symptomau parhaus, a daethpwyd â’i hysterectomi ymlaen. Fodd bynnag, cafodd gymhlethdodau a oedd yn bygwth bywyd yn ystod ei llawdriniaeth gyda gwaedu a haint sylweddol, gan arwain at ddau arhosiad Gofal Dwys a llawdriniaeth frys bellach yn y canol.
Dair wythnos ar ôl y llawdriniaeth frys, derbyniodd ddiagnosis o Leiomyosarcoma crothol. Yn anffodus, oherwydd y ffordd y tynnwyd y tiwmor, ymledodd celloedd canser i rannau eraill o’i abdomen ac oherwydd cymhlethdodau yn ystod ei llawdriniaethau, ni allai gael unrhyw driniaeth oncolegol i ohirio lledaeniad ei chanser.
Roedd y cyfathrebu ynghylch ei diagnosis ac argaeledd triniaeth barhaus addas yn wael. Dywedwyd wrthi am ei diagnosis o ganser pan oedd ar ei phen ei hun. Yn dilyn hyn, bu cyfathrebu â thîm arbenigol, a dywedwyd wrthi am ddisgwyl cemotherapi neu radiotherapi. Dilynodd cyfarfod cynllunio triniaeth ar-lein, pryd y tynnodd yr oncolegydd hyn yn ôl, a theimlai Donna ei bod yn cael ei ‘anghofio’”. Dywedasant eu bod yn meddwl y byddai’n dychwelyd ac y byddai sgan ymhen 3 mis
Parhaodd gydag adferiad gartref, gan ddymuno mynd allan o gwmpas y lle unwaith eto, am ba bynnag amser oedd ganddi ar ol. Ond o fewn pedair wythnos, cafodd ailddigwyddiad difrifol a threuliodd ei Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ddiwethaf yn yr ysbyty. Cafodd ei rhyddhau yn y flwyddyn newydd a bu farw o fewn tair wythnos, ar ddiwedd Ionawr 2023.
Dywedodd Kayleigh, “Roedden ni wedi gobeithio cael mwy o amser gyda hi ac yn sicr byddem wedi rhagweld gwell ansawdd bywyd, pe bai ei symptomau wedi cael eu cymryd o ddifrif a’i llawdriniaeth wedi digwydd yn brydlon, yn ystod cyfle lle gallai’r tiwmor fod wedi cael ei waredu’n fwy diogel.”
“Fel teulu (ac fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fy hun), rwy’n teimlo bod gwersi sylweddol i’w dysgu oddi wrth achos fy mam, a allai fod o gymorth i fenywod eraill. Cychwynnodd yr ysbyty ei ymchwiliad ei hun ond daeth i’r casgliad, er y gallent fod wedi ystyried and ffibroid ydoedd (mewn cyfarfod tîm amlddisgyblaethol, cyn llawdriniaeth), roedd hyn yn ddibwys oherwydd ei fod yn ‘annhebygol o newid y canlyniad’ . Byddai wedi marw beth bynnag, a dyma oedd eu hunig safon ansawdd.”
Er bod Kayleigh yn realistig am y math hwn o ganser a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig ag ef, nid yw’n teimlo bod ei mam wedi cael blaenoriaeth o ran unrhyw ansawdd bywyd. Teimlai pe bai rhywun wedi gwrando arnynt, y gallai fod wedi cael mwy o amser, llai o drawma, poen a thrallod seicolegol.
Nyrs oedd Donna, a oedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio yn yr un ysbyty. Roedd hi’n deall yn iawn arwyddocâd llais y claf, ansawdd bywyd a gofal cyfannol