Julie Ashbrook
Ar ôl 10 mis heb fislif, profodd Julie Ashbrook, 55 oed, o Swydd Gaer, un bennod o waedu annormal ym mis Chwefror 2024. A hithau’n poeni am hyn, fe aeth hi at ei meddyg teulu ddechrau mis Mawrth ac fe gafodd ei chyfeirio’n gyflym at gynaecolegydd o dan drefn y llwybr atgyfeirio brys ar gyfer achosion lle amheuir canser.
Fe wnaeth yr ymgynghorydd brawf ceg y groth, a ddaeth yn ôl yn glir. Ar ben hyn, fe fethodd sgan mewnol â dangos unrhyw beth annormal. Ar ôl trafodaeth fer am ei symptomau, fe gafodd Julie ei rhyddhau o’r ysbyty a’i chyfeirio’n ôl at ei meddyg teulu, heb unrhyw gynllun dilynol.
Er gwaethaf y ffaith bod “popeth yn glir”, fe wnaeth symptomau Julie barhau – a gwaethygu. Fe ddechreuodd brofi poen yn y pelfis, poen cefn, gollyngiadau annormal, a smotiau gwaed. Yn ôl Julie: “Roedd yn teimlo’n debyg iawn i haint y llwybr wrinol. Roedd gwaed yn fy wrin, felly fe gefais wrthfiotigau, ond parhau wnaeth fy symptomau.”
Ar ôl ymweld â’r meddyg teulu sawl gwaith, fe gafodd Julie ei chyfeirio at wrolegydd yn y pen draw. Fe gafodd sgan uwchsain o’i harennau a’i phledren – a daeth y ddau yn ôl yn normal. Yn dilyn cystosgopi, roedd popeth yn ymddangos yn iawn. Yn y cyfamser, aeth symptomau Julie yn fwy difrifol: gwaedu trymach, clotiau mwy o faint, a’r boen yn gwaethygu. Fe gafodd asid tranecsamig ar bresgripsiwn i reoli’r gwaedu a dywedwyd wrthi i ddod yn ôl os na fyddai pethau’n gwella.
Ym mis Gorffennaf, fe aeth Julie yn ôl at y meddyg teulu, heb unrhyw gynnydd. Yn ôl Julie: “Fe wnes i erfyn am gael fy atgyfeirio eto at gynaecolegydd, ond cefais wybod y byddai’n rhaid i mi aros naw mis gan fy mod i eisoes wedi cael fy ngweld ym mis Mawrth pan “na chafodd dim ei weld”. Yn lle hynny, fe wnaethant gytuno i anfon Julie am sgan uwchsain arall, ac fe gafodd hi’r sgan hwnnw ym mis Awst.
Awgrymodd y nyrs a oedd yn cynnal y sgan fod angen sgan MRI arni, gan fod y canlyniadau’n aneglur. Ond yn lle trefnu sgan MRI, anfonwyd Julie am fiopsi endometriaidd. Ar ôl mwy na thair wythnos o dawelwch, fe gafodd ei chyfeirio am golposgopi. Yn yr apwyntiad hwn, fe gymerodd yr ymgynghorydd fiopsïau ac fe ddywedodd fod modd gweld arwyddion gweladwy o ganser.
Dim ond ar ôl hyn y cafodd Julie ei hanfon am sganiau MRI, CT a PET, ac ym mis Hydref 2024, fe gafodd Julie ddiagnosis o ganser ceg y groth (Cyfnod 4B).