Judith

Judith Rowlands

Cysylltodd Judith Rowlands, o Ynys Môn, â’i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar ôl y menopos. Cafodd bresgripsiwn am therapi adfer hormonau (HRT), ond pan barhaodd y gwaedu roedd yn gwybod bod rhywbeth o’i le, gan fod ei mam hefyd wedi cael diagnosis o ganser yr ofari. Yn y pen draw, cafodd Judith ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.

Fodd bynnag, ar ôl yr hysterectomi, profodd Judith boen ofnadwy a oedd yn dechrau yn ei stumog ac yn effeithio ar ei choes cynddrwg, nes roedd hi’n methu â cherdded.

“Roeddwn i’n dweud a dweud, ‘Rwy’n credu bod gen i ganser o hyd.’” meddai Judith yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor.

Fodd bynnag, teimlai ei meddygon nad oedd hyn yn wir, a mynnodd na fyddent yn disgwyl gweld y math hwnnw o ganser yn dod yn ôl. Er gwaethaf cael ei chyfeirio at glinig poen, parhaodd Judith i gael poenau difrifol, ac ymhen amser cafodd ei hanfon i gael sgan ar ôl mynd i uned gofal brys oherwydd y boen. Datgelodd y sgan fod y canser wedi dychwelyd ac nad oedd gwella arni mwyach.

“Mae’r canser yn fy mhelfis, mae gen i ddau diwmor mwy ac maen nhw’n union lle mae’r boen wedi bod, yn union yno,” meddai Judith yn ei thystiolaeth. “Fe es i mewn i’r ysbyty yn iach, ar wahân i’r canser yr oeddem yn mynd i gael gwared arno, ond pan es i allan roeddwn i wedi colli popeth.”

Roedd Judith eisiau i’w hanes gael ei adrodd yn y gobaith y gall atal menywod eraill rhag cael yr un profiad ag a gafodd hi. Bu farw Judith ym mis Mai 2023, yn fuan ar ôl i’w fideo gael ei ddangos i’r Pwyllgor

Mewn cydweithrediad â