Jessica Mason

Jessica Mason

Rhoddwyd ystod o gamddiagnosis i Jessica Mason gan gynnwys heintiau, cwymp y groth ac amheuaeth o endometriosis, dim ond ar gyfer tiwmor 6.5cm  a ganfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn tyfu yng ngheg y groth a’r groth.

Er bod Jessica’n teimlo fel “un o’r rhai lwcus” oherwydd ei bod yn rhydd o ganser ar hyn o bryd, fe ddioddefodd radiotherapi, cemotherapi, a bracitherapi gan ei gorfodi i gael menopos cynnar a chael gwared ar y cyfle i gael plentyn arall a effeithiodd yn fawr arni.

“Rwy’n teimlo na fyddwn wedi gorfod mynd trwy hynny o gwbl pe bai rhywun wedi gwrando arnaf,” meddai Jessica.

Am flynyddoedd, bu Jessica yn ôl ac ymlaen at y meddyg teulu, a hyd yn oed ymweliadau brys â’r adran damweiniau ac achosion brys, i godi ei phryderon. Cafodd ei chyfeirio at ffisio ar gyfer cwymp y groth a dywedwyd wrthi fod ganddi heintiau ac amheuaeth o endometriosis.

Ychydig fisoedd cyn i’r tiwmor gael ei ddarganfod, cafodd brawf ceg y groth clir, yn ogystal ag archwiliad mewnol, lle dywedwyd wrthi, unwaith eto, mai cwymp y groth ydoedd..

Yn anffodus, dangosodd sgan MRI chwe mis ar ôl ei thriniaeth canser fod y tiwmor yn parhau. Cafodd Jessica hysterectomi radical ym mis Mehefin 2023 ac mae’n dal i wella ar ôl dioddefaint corfforol a meddyliol.

“Rwy’n teimlo y gallai’r boen a’r golled yr wyf wedi’u dioddef fod wedi eu hatal pe bai rhywun wedi  gwrando arnaf. Rydyn ni’n adnabod ein cyrff ac yn gwybod pan nad yw rhywbeth yn iawn.

“Rydw i wedi bod eisiau gwneud rhywbeth am hyn ers cymaint o amser, felly diolch i Claire am siarad dros fenywod fel fi. Rwy’n eich cymeradwyo.”

Mewn cydweithrediad â