Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y pwyllgor eu hadroddiad Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol gyda 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru – gan gynnwys yr angen i gynllun iechyd menywod Cymru gynnwys ffocws penodol ar ganserau gynaecolegol (Argymhelliad 2). Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Rhwydwaith Canser Cymru gomisiynu adolygiad brys o nifer yr achosion, tueddiadau a phoblogaethau risg uchel mewn perthynas â chyflwyniadau brys gyda chanser gynaecolegol (Argymhelliad15), dylent hefyd gynnal adolygiad cynhwysfawr o fewn chwe mis o’r gweithlu canser gynaecolegol yng Nghymru (Argymhelliad 19).