Uwchgynhadledd Gynaecolegol Gweinidogol ar Orffennaf 8fed

Er ein bod yn croesawu’r sylw a roddwyd i ganserau gynaecolegol yn yr Uwchgynhadledd Weinidogol yn ôl ym mis Gorffennaf, yn anffodus nid yw’n trosi (yn yr adran Gweithredu a’r Camau Nesaf) i’r mathau o ymrwymiadau a chamau gweithredu sydd eu hangen os ydym am fynd i’r afael â’r amseroedd aros  gwael ac annerbyniol ar gyfer canser gynaecolegol  y mae menywod wedi gorfod eu dioddef ers blynyddoedd. Er enghraifft, er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn enghraifft o arfer gorau – cyflawni eu targed amser aros ar gyfer canserau gynaecolegol – nid oes ymrwymiad, adnoddau nac amserlen i’r byrddau iechyd eraill eu dysgu.

Byddem yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i fonitro camau gweithredu a neilltuwyd i Weithrediaeth y GIG i wella profiadau menywod drwy wrando ar adborth drwy fesurau canlyniadau a phrofiad cleifion. Mae’n hanfodol hefyd bod menywod yn cael y cyfle i gyfrannu at y gwaith o gynllunio gwasanaethau newydd a’u bod yn gallu cyfrannu’n barhaus at ddatblygu a chyflawni Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru a’r olynydd i Ddatganiad Ansawdd Canser Cymru. Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru ac uwch arweinwyr y GIG weithredu’n gyflym i sicrhau nad yw menywod sydd â phryderon am eu cyrff yn cael eu gadael i deimlo “nad oes clust iddynt’ gan eu gwasanaethau iechyd.

Darllenwch adroddiad cryno Llywodraeth Cymru o’r Uwchgynhadledd yma.

Mewn cydweithrediad â