Diweddariad o Gynhadledd Llafur Cymru 2025

Yng Nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno y penwythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS, weledigaeth y blaid ar gyfer Cymru gryfach, decach ac iachach.

Un o brif negeseuon ei haraith oedd yr ymrwymiad i GIG Cymru, sef “cyflawniad balchaf” Llafur, gyda phenderfyniad newydd i gynnig gofal gwell, sy’n agosach at gymunedau. Soniodd am recriwtio miloedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd ac ehangu gwasanaethau fferyllfa am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin.

Neilltuodd y Prif Weinidog ran sylweddol o’i haraith i fater hanfodol iechyd menywod, gan ei gwneud yn glir bod hyn yn brif flaenoriaeth i’w llywodraeth. Siaradodd yn ddirdynnol am Claire O’Shea, a oedd yn bresennol yn y gynhadledd ddiwethaf yn Llandudno, ac a fu farw ym mis Mai yn anffodus. Treuliodd Claire ei misoedd olaf yn ymladd nid drosti’i hun, ond dros fenywod eraill a siomwyd gan y system.

Gydag emosiwn amlwg, dywedodd y Prif Weinidog: “Cafodd ei siomi. Ac mae gormod o fenywod eraill wedi cael eu siomi hefyd.” Fel y fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru, ymrwymodd i “wrando, dysgu a gweithredu”, gan addo creu mannau lle mae menywod yn cael eu clywed, eu credu a’u trin ag urddas.

Addawodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru “yn cyflawni’r Cynllun Iechyd Menywod.” Ar ben hynny, er cof am Claire O’Shea, ymrwymodd i sicrhau bod “canolfannau iechyd menywod yn weithredol ym mhob rhan o Gymru cyn yr etholiad nesaf.”

Mae’n ddiddorol gweld a chlywed Llywodraeth Cymru yn gwneud y cysylltiad rhwng y Cynllun Iechyd Menywod a chanser gynaecolegol, er ond yn canolbwyntio ar y cam ‘cyn diagnosis’ cynharach, lle mae sicrhau atgyfeiriad am amheuaeth o ganser yn aml yn broblemus.  Cawn weld maes o law sut bydd y canolfannau newydd hyn i fenywod (a’r Cynllun Iechyd Menywod) yn mynd i’r afael â phryderon ymgyrch Claire yn fwy cyffredinol, a byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Mewn cydweithrediad â