Gofynnodd AS Dwyrain De Cymru, Natasha Asghar gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Mark Drakeford AS ar ran yr Ymgyrch
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi adroddiad i’r Senedd o’r uwchgynhadledd weinidogol ar wasanaethau gynaecolegol yng Nghymru a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2024?
Mark Drakeford: Trefnwyd yr uwchgynhadledd gynaecolegol weinidogol a gynhaliwyd ar 08 Gorffennaf 2024 i ddod â chynrychiolwyr ynghyd o fyrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Gweithrediaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i egluro ein ffocws ar y cyd ar wella mynediad at gynaecoleg a pherfformiad gwasanathau gynaecoleg Cymru.
Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion yn drafftio adroddiad sy’n crynhoi’r trafodaethau, y canlyniadau a’r blaenoriaethau o’r uwchgynhadledd, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.
Rydyn ni am i adroddiad uwchgynhadledd weinidogol ddiweddar gael ei wneud yn gyhoeddus, er mwyn deall yn well y penderfyniadau a wnaed a dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif. Byddwn yn parhau i wneud gwaith dilynol ar hyn dros yr hydref.