Adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Canser – Ein Hymateb

Mae Ymgyrch Claire yn croesawu cyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru ar wasanaethau canser. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth a ddatgelwyd a’i ganfyddiadau yn peri cryn bryder.

Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad “Heb lais’ Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a ddilynodd ei ymchwiliad i ganserau gynaecolegol. Ac eto, ni fu unrhyw gynnydd o ran lleihau amseroedd aros canser gynaecolegol, sydd ymhlith y gwaethaf. Mae’r amrywiad enfawr mewn perfformiad rhwng byrddau iechyd yr un mor annerbyniol a rhaid mynd i’r afael ag ef.

Mae’r diffyg eglurder ynghylch cyfrifoldeb am wella canlyniadau canser gynaecolegol yn frawychus. Yn ei ymateb i’r adroddiad hwn, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn glir a darparu eglurder a sicrwydd o ran cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion canser gynaecolegol fel mater o frys.

Rydym yn croesawu ffocws yr adroddiad ar y data cyfyngedig iawn sydd ar gael i asesu tegwch mewn gwasanaethau cymorth canser. Rydym yn parhau i ymgyrchu am well data ynghylch mynediad at wasanaethau canser i’n galluogi i ddeall faint o fenywod â chanser gynaecolegol, a symptomau canser, sy’n cael eu heffeithio a gwneud gwelliannau

Press Links

Channel 4 News

ITV News

Mewn cydweithrediad â