Cymryd rhan

Mae ymgyrch Claire yn canolbwyntio ar sicrhau newid polisi drwy leisiau a straeon pobl ac ymgyrchu i newid y diwylliant o ddiystyru lleisiau menywod mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae angen inni glywed gennych, p’un a oes gennych stori am eich profiad eich hun o ganser gynaecolegol , neu a hoffech gefnogi’r ymgyrch drwy lobïo eich AS am newid, neu gyfrannu at Ymgyrch Claire.

Trwy lenwi’r ffurflen isod rydych yn rhoi caniatâd i Ofal Canser Tenovus (ar ran Ymgyrch Claire) rannu eich stori at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chodi arian. Rydych yn cytuno y gellir defnyddio eich geiriau ysgrifenedig a’ch stori ar gyfer cyhoeddiadau, erthyglau yn y wasg, deunyddiau marchnata a chyflwyniadau. Efallai y bydd eich stori hefyd yn cael ei rhannu’n electronig, ei harddangos ar y rhyngrwyd ac ar ein gwefan a’n gwefannau cyfryngau cymdeithasol.






    Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel bob amser ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu. I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Gofal Canser Tenovus i gael ei Bolisi Preifatrwydd (https://www.tenovuscancercare.org.uk/about-us/privacy-policy). Os ydych yn dymuno atal eich caniatâd i ni ddefnyddio’ch stori, e-bostiwch preferences@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2076 8850.

    Bydd diweddariadau ar Ymgyrch Claire yn cael eu rhannu ar y wefan hon. Os hoffech dderbyn diweddariadau uniongyrchol am waith a gweithgareddau Gofal Canser Tenovus, gan gynnwys Ymgyrch Claire, llenwch y ffurflen hon: https://www.tenovuscancercare.org.uk/about-us/contact-us/keep-in-touch

    Cysylltwch á’ch AS 

    Os ydych yn byw yng Nghymru, mae gennych un Aelod Etholaeth o’r Senedd, a phedwar Aelod Seneddol rhanbarthol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich ASs yma – https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd/

    Rydym yn gofyn i gefnogwyr ymgyrch Claire gysylltu â’u Haelodau Seneddol i ofyn am eu hymrwymiad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn ei chyflawniad yn erbyn argymhellion y Pwyllgor Iechyd i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen ar fenywod yng Nghymru.

    Rydym yn gofyn i Aelodau Seneddol wrando ar leisiau menywod, ac i’n helpu i sicrhau newid yn y diwylliant o ddiystyru lleisiau menywod mewn lleoliadau gofal iechyd. 

    Cyfrannu

    Os hoffech chi gyfrannu at ymgyrch Claire ….. dyma’r ddolen i gyfrannu

    Cymorth a chefnogaeth 

    Gofal Canser Tenovus

    Os ydych chi’n poeni neu os oes gennych chi gwestiynau am ganser, neu os hoffech chi gael mynediad i’n gwasanaethau, ffoniwch Linell Gymorth am ddim Tenovus ar 0808 808 1010.

    Gwfan  https://www.tenovuscancercare.org.uk/get-in-touch

    Mewn cydweithrediad â