Amy (nid ei henw go iawn)

Cafodd Amy*, 30, o Aberdâr ei hanwybyddu a’i gyrru ymaith am flynyddoedd o 2018 hyd at 2024 ar ôl datblygu symptomau pryderus. Pan gafodd lawdriniaeth o’r diwedd, cadarnhawyd bod ganddi ganser yr ofarïau cam 2. Mae Amy yn meddwl, heb gyflwyno pedair cwyn a bygwth gweithredu cyfreithiol, efallai na fyddai hi byth wedi cael ei gweld. Yn ystod y cyfnod hwn, teimlai ei bod yn cael ei thrin fel “rhywun sy’n gorymateb i bethau,” ac roedd y profiad yn ofnadwy ac yn ofidus iawn. Yn dorcalonnus, collodd saith beichiogrwydd hefyd yn ystod y cyfnod hwn – yr amser anoddaf yn ei bywyd.

*nid ei henw go iawn

Mewn cydweithrediad â