Dan arweiniad BIP Hywel Dda, mae’r Uwch Wasanaeth Gynaecoleg Cymunedol (ECGS) yn fenter newydd yng Nghymru a gynlluniwyd i wella gofal i fenywod sy’n profi gwaedu afreolaidd sy’n gysylltiedig â therapi amnewid hormonau (HRT). Yn hanesyddol, mae llawer o’r achosion hyn wedi cael eu hatgyfeirio trwy lwybrau brys ar gyfer canser a amheuir (USC), er gwaethaf tystiolaeth sy’n dangos bod defnyddwyr HRT mewn llai o berygl o ganser yr endometriwm. Mae’r broses hon wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau canser, gyda thystiolaeth gyfredol yn awgrymu y bydd 8% o boblogaeth Cymru sy’n cael HRT yn cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd gyda gwaedu afreolaidd. Tynnodd y Comisiwn Bevan sylw at y ffaith y byddai hyn yn cyfateb i oddeutu 2295 o achosion newydd y flwyddyn sy’n cael eu gyrru i lwybrau canser.
Mae ECGS yn cynnig llwybr gofal arall, gyda chlinigau dan arweiniad ymgynghorwyr yn darparu diagnosteg a thriniaethau man gofal (point-of-care) yn agosach at adref. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys Clinigau Gwaedu Afreolaidd HRT pwrpasol, Clinigau Gynaecoleg Gymysg, a Chlinigau Hysterosgopi/Uwchsain Un Stop. Mae’r clinigau hyn yn caniatáu diagnosis cyflym, cynllunio rheolaeth a thriniaeth, a blaenoriaethu cleifion risg uchel ar lwybrau canser.
Yn Ymgyrch Claire, rydym yn croesawu’r datblygiad hwn a’i botensial i leddfu’r pwysau ar wasanaethau canser gynaecolegol. Gobeithiwn, gyda rhwyd ddiogelwch a dilyniant priodol, y bydd yr ymyrraeth hon nid yn unig yn gwella gofal i fenywod â chyflyrau diniwed ond hefyd yn arwain at ganlyniadau gwell a chyflymach i’r rhai sydd â chanser gynaecolegol. Rydym yn annog ei ehangu ledled Cymru gan fod pob menyw yn haeddu gofal gynaecolegol amserol a chywir – ac mae’r fenter hon yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yma.