Mae Ymgyrch Claire yn falch bod yr ystadegau ar gyfer amseroedd aros triniaethau canser, a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer mis Mawrth 2025, yn dangos gostyngiad yn yr amseroedd aros cyfartalog yng Nghymru am y pedwerydd mis yn olynol. Mae’n amlwg bod y buddsoddiadau a wnaed yn ddiweddar yn creu canlyniadau i’r rhai sy’n derbyn gofal yng Nghymru, gyda’r mis hwn yn gweld gostyngiadau yn nifer yr arosiadau hir am apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau diagnostig.
Fodd bynnag, i gleifion gynaecoleg, mae taith hir yn dal i fod o’n blaenau. Er bod Llywodraeth Cymru yn honni ein bod yn gweld y perfformiad canser gorau ers 2021, mae cleifion gynaecolegol yn cael eu heffeithio’n anghymesur gyda chanlyniadau gwaeth. Roedd canran gyfartalog y cleifion a gafodd eu trin ar amser ym mis Mawrth yn 48.5%, ymhell islaw’r targed o 75% (y mae disgwyl i’r targed godi i 80% yn 2026).
Ar ben hynny, mae nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth bendant gyntaf ar ei hisaf ers mis Mawrth 2024, sef 66 o fenywod, er bod gwell amseroedd aros wedi bod ers hynny.
Dylid hefyd sôn bod yr amrywioldeb rhwng y byrddau iechyd yn parhau i fod yn amlwg – roedd gwahaniaeth o 68.7 pwynt canran rhwng y byrddau iechyd â’r perfformiad uchaf a’r perfformiad isaf ym mis Mawrth. Fe wnaeth BIP Caerdydd a’r Fro drin un claf a llwyddo i gyrraedd 100% drwy drin o fewn y 62 diwrnod targed. Fodd bynnag, mae gennym gwestiynau ynghylch pam na ellir dosbarthu capasiti mwy y bwrdd iechyd hwn yn well i helpu i ddiwallu’r galw ledled Cymru.
Ni wnaeth yr holl fyrddau iechyd, ac eithrio BIP Caerdydd a’r Fro a BIP Aneurin Bevan, lwyddo i drin o fewn y 62 diwrnod targed, sy’n dangos yn glir yr anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth o fwrdd iechyd i fwrdd iechyd.
Mae angen sicrwydd arnom y bydd y gwelliant araf yn amseroedd aros triniaethau gynaecolegol yn parhau ac yn arwain at ganlyniadau gwell i fenywod yng Nghymru, sy’n haeddu diagnosis a thriniaeth amserol.
Flwyddyn ers lansio Ymgyrch Claire, rydyn ni’n dal i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys, i sicrhau canlyniadau teg waeth beth fo’r bwrdd iechyd, ac i weithredu ar leisiau a phryderon menywod.
Am ragor o wybodaeth am berfformiad ar draws pob bwrdd iechyd, cliciwch yma.