Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau

Mae 42% o fenywod yng Nghymru yn credu’n anghywir y bydd sgrinio serfigol yn canfod canser yr ofarïau. Heb raglen sgrinio ymarferol, mae’n hanfodol bod pob menyw yn gwybod y symptomau a’n bod yn mynd i’r afael â’r camsyniadau ynghylch canser yr ofarïau er mwyn sicrhau bod menywod yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gysylltu â’u meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Dyna pam y #MisYmwybyddiaethCanserYrOfarïau hwn rydym yn ymuno â Target Ovarian i helpu i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofarïau a sicrhau bod mwy o fenywod yn gwybod na fydd sgrinio serfigol yn canfod canser yr ofarïau.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 11 yn adroddiad Heb lais gan Bwyllgor Iechyd y Senedd, a fyddai’n sicrhau bod gwybodaeth a ddarperir mewn apwyntiadau sgrinio serfigol yn ei gwneud yn glir nad yw sgrinio o’r fath yn profi nac yn sgrinio am ganserau gynaecolegol eraill a’i fod yn cynnwys gwybodaeth am symptomau canserau gynaecolegol eraill, nid ydym eto wedi gweld amserlen ar gyfer pryd y gallwn ddisgwyl gweld y newid hwn.

Mae Ymgyrch Claire yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gael Llywodraeth Cymru a’r cyrff cyhoeddus eraill i roi pob un o’r argymhellion Heb lais ar waith, gan gynnwys argymhelliad 11, a byddwn yn parhau i graffu ar weithgarwch (neu’r diffyg gweithgarwch) yn y cyfamser.

Mewn cydweithrediad â