Rachael Tyler

Rachael Tyler

Dywed  Jess Moultrie bod bywyd ei mam Rachael Tyler wedi newid yn aruthrol ar ôl blynyddoedd heb gefnogaeth, heb neb yn gwrando arni,  na chael ei chymryd o ddifrif.

Ym 1999, cafodd symptomau misglwyf afreolaidd ei Rachael a darganfod cyst 3cm ar ei hofarïau eu camgymryd fel PCOS (syndrom ofari polycystig) oherwydd ei phwysau.

Anwybyddwyd pryderon a chwynion tan 2006 pan gwympodd yn ei gwaith. Roedd y cyst ar ei hofari wedi datblygu’n diwmor canseraidd 9 pwys.

Ar ôl cael plant yn gyflym, cafodd Rachael hysterectomi, c fe gafodd hynny effaith sylweddol ar ei hiechyd yn gyffredinol. Gwrthodwyd HRT iddi i ddechrau i leddfu ei symptomau, oherwydd camddealltwriaeth ynghylch risgiau clotiau gwaed. Erbyn i arbenigwr ddweud y gallai gael y driniaeth, “roedd y difrod eisoes wedi’i wneud”.

“Mae mam yn 46 ac yn anabl oherwydd  I feddygon ei hanwybyddu a beio ei phwysau neu’n dweud ei bod yn rhy ifanc i’w chymryd o ddifrif”, meddai Jess.

“Nid oes ganddi unrhyw ansawdd bywyd ac ychydig iawn o obaith o gael dim yn ol unrhyw amser yn fuan oherwydd amseroedd aros. Mae hi wedi cael problemau asgwrn cefn oherwydd bod ei hiechyd yn dirywio sydd wedi arwain at ddiffyg teimlad yng nghesail ei morddwyd oherwydd niwed i’r nerfau, ond nid yw hynny’n bryder i feddygon. Mae fel petai hi ddim yn bwysig.

“Mae’r llywodraeth wedi cymryd gormod o amser i wrando, ac mae angen newid diwylliant ac agweddau gweithwyr proffesiynol. Mae’n brifo fy nghalon o wybod bod hyn yn dal i ddigwydd a gallai ddigwydd i mi hefyd.”

Mewn cydweithrediad â